0300 999 5428
BBC Woman's Hour, LBC, GRadioSee details of our radio talks and interviews over 2008
Domestic Violence FactsOf all violence, Domestic Violence has the highest rate of repeat instances. 46% will experience domestic violence twice or more. 1 in 4 with experience domestic violence three times or more.
- Membership for individuals and organisations
- You can donate, or use our links for your internet shopping.
- You can donate your time
- You can virtually donate your time by taking on specific tasks that can be completed at home
- You can donate your services: are you a photographer or a designer or writer...?
- Do you have a story to tell about LGBT DV?
- Have you got a comment to make or question to ask?
Cynllun Diogelwch
Os ydych yn dioddef o drais domestig neu gam-drin, bydd creu cynllun diogelwch yn eich galluogi i feddwl am sut i wella’ch diogelwch os a phan fydd trais neu gam-drin yn digwydd eto. Ni fydd yn sicrhau eich diogelwch, ond gallai ei wella. Gall eich cynllun diogelwch personol gynnwys rhai o’r canlynol:
Os ydych chi neu’ch teulu mewn perygl dybryd, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Dywedwch wrth rywun y gallwch ymddiried ynddynt beth sy’n digwydd, a meddyliwch am sefydlu cyfrinair gyda naill ai ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu y gallwch ddefnyddio i esbonio bod yna argyfwng a’ch bod angen cymorth ar frys.
Paratowch fag o ddillad, meddyginiaeth a nwyddau hanfodol eraill ar eich cyfer chi a’ch plant, e.e. copïau o drwydded yrru, tystysgrifau geni, pasbortau, llyfrau neu lythyron budd-daliadau, rhifau pwysig ac ati. Cuddiwch y bag yn rhywle diogel.
Os oes gennych gar, gwnewch set arall o allweddi a’u cuddio ble gallwch gael gafael arnynt os oes angen.
Dysgwch eich plant i ffonio 999 mewn argyfwng a beth fyddai angen iddynt ddweud (er enghraifft, eu henw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn).
Ceisiwch gadw ychydig o arian a’ch cardiau credyd/debyd arnoch ar bob adeg – yn cynnwys newid ar gyfer y ffôn a bysus.
Os ydych yn credu bod eich partner ar fin ymosod arnoch, ceisiwch fynd i fan diogelach megis ystafell sydd â ffordd allan a mynediad at ffôn. Ceisiwch osgoi ystafelloedd sydd ag arfau posibl ynddynt, megis y gegin neu’r garej, ac ystafelloedd fel yr ystafell ymolchi ble mae’n haws iddynt eich caethiwo.
Cadwch unrhyw lythyron, negeseuon e-bost a thestun fel tystiolaeth o’r gamdriniaeth.
Os yw’ch partner yn eich anafu, ewch i weld meddyg neu i’r ysbyty fel bod cofnod o’r gamdriniaeth.
Os ydych yn bwriadu gadael eich partner, meddyliwch am sut i wneud hyn mor ddiogel â phosibl. Weithiau gall hyn fod yr adeg fwyaf peryglus i chi. Os yw’ch partner yn gwybod eich bod yn bwriadu gadael, gallant fod yn fwy treisgar ac ymosodol.
Cynlluniwch i adael ar adeg pan na fydd eich partner yno, ac os oes gennych warchodaeth gyfreithiol o blant, ewch â nhw gyda chi gan y gall achosi cymhlethdodau pellach os na wnewch.
Os ydych eisoes wedi gadael y berthynas ac yn dal i gael eich aflonyddu:
Dywedwch wrth rywun y gallwch ymddiried ynddynt beth sy’n digwydd.
Ceisiwch beidio ynysu’ch hun. Penderfynwch ar y llwybrau mwyaf diogel o’ch cartref i’r gwaith a’u defnyddio. Os na allwch wneud hyn, ceisiwch deithio gyda rhywun arall.
Sicrhewch fod eich cartref yn ddiogel. Ystyriwch newid eich cloeon a sicrhau bod pob drws a ffenestr yn ddiogel.